Rhestr Brisiau CMA
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob trefnydd angladdau yn y DU arddangos gwybodaeth am eu prisiau, telerau busnes a phrisiau amlosgfeydd lleol.
Mae’r gofyniad hwn yn dilyn ymchwiliad CMA (Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd) i’r sector angladdau ac mae’n un yr ydym yn ei gefnogi’n llwyr ar ôl bod yn dryloyw ac yn onest erioed ynglŷn â’n prisiau a sut rydym yn gweithio.
Cliciwch yma am ein Rhestr Brisiau Safonol CMA [pdf]
Cliciwch yma am ein Telerau Busnes a Datgeliad Buddiannau [pdf]
Cliciwch yma am brisiau amlosgfeydd lleol [pdf].
Mae fformat safonol rhestr brisiau CMA yn caniatáu ichi gymharu prisiau’n hawdd rhwng gwahanol drefnwyr angladdau ond rydym yn gwybod nad yw’n hawdd ei ddehongli ac yn sicr nid yw’n caniatáu inni ddangos yr holl opsiynau sydd gennych wrth drefnu angladd.
Gweler Ein Prisiau am ragor o wybodaeth am ein prisio a sut y gallwn eich helpu i greu angladd ystyrlon sydd wedi’i deilwra i’ch cyllideb.

