Lleoliad
Gallwch gynnal gwasanaeth angladd yn unrhyw le sy’n teimlo’n iawn i chi fel teulu, ond nid yw pob lleoliad fel tafarndai neu fwytai yn caniatáu i’r arch fod o fewn yr adeilad. Gall neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol ddarparu lle mwy hamddenol ar gyfer angladd heb gyfyngiadau amser capel amlosgfa, yn enwedig lle mae sawl person eisiau cyfrannu at y gwasanaeth.
Gallwn gynnal cynulliadau bach yn ein gofod aml-ddefnydd ar y llawr gwaelod ym Mangor, mae’r gost am hyn yn dechrau o £225. Gellir defnyddio’r lle hwn ar gyfer cynulliad teuluol, gwasanaeth dan arweiniad teulu, neu gallwn drefnu i weinydd arwain y gwasanaeth am ffi ychwanegol.

