Eirch

Yn Enfys, rydym yn teimlo bod dewis mor bwysig ond rydym hefyd yn cydnabod pa mor llethol y gall gormod o ddewis deimlo. Isod mae rhai enghreifftiau o’r gwahanol fathau o eirch y gallwch ddewis ohonynt a gallwch glicio ar y ddolen i lawrlwytho ein llyfryn arch am fwy o opsiynau.

Eirch wedi’u finerio

Mae eirch wedi’u finerio yn ddewis poblogaidd ar gyfer amlosgiadau a gellir eu defnyddio hefyd ar gyfer claddedigaethau. Mae amrywiaeth o orffeniadau pren ar gael gan gynnwys derw, llwyfen, ceirios, mahogani; ac opsiynau pellach fel dolenni ac addurniadau pres neu arian; a gleiniau i’r caead neu ochrau panel boglynnog.

­Arch Conway, derw wedi’i fineru gyda chaead gleiniog, o £345.

Eirch Pren Solet

Mae eirch pren solet yn ddigymar o ran eu hansawdd, gan gynnig estheteg gadarn a gwirioneddol premiwm. Mae eirch pren solet yn addas ar gyfer amlosgi ond fe’u hargymhellir yn amlach ar gyfer claddedigaethau gan gofio eu bod yn drwm iawn. Maent ar gael mewn llawer o wahanol goed fel derw, mahogani a phinwydd ac mae ganddynt opsiynau pellach fel yr eirch wedi’u fineru neu ddolenni ac addurniadau pres neu arian; gleiniau neu gaead wedi’i godi ac ochrau panel wedi’u rhwyllo.

­Arch Chesterfield, derw solet gydag ochrau a phennau panel wedi’u rhwyllo a chaead dwbl wedi’i godi, o £792.

Eirch Helyg

Mae eirch helyg yn cael eu gwehyddu yng Ngwlad yr Haf gan ddefnyddio dim ond helyg sydd wedi’i dyfu, ei sychu, ei stemio a’i liwio, ar fferm ein cyflenwr ein hunain. Mae pob arch yn cael ei gwneud i’w harchebu am gyffyrddiad personol iawn ac yn addas ar gyfer amlosgi, claddu a safleoedd coetir naturiol. Mae eirch helyg ar gael mewn helyg llwydfelyn, gwyn, helyg llwydfelyn hynafol, helyg rhisgl naturiol a helyg wedi’i stemio; a gellir eu haddasu’n llawn gyda bandiau lliw gwahanol; leinin kalico lliw; dolenni helyg neu raff; a gellir eu gwneud naill ai mewn pen crwm neu siâp traddodiadol.

­

Arch Southlake, helyg llwydfelyn mewn siâp pen crwm, o £615.

Eirch wedi’u gwehyddu

Mae eirch wedi’u gwehyddu â llaw gan wneuthurwyr basgedi medrus gan wneud pob un yn unigryw ac yn addas ar gyfer claddu, amlosgi a safleoedd claddu naturiol. Maent ar gael mewn amrywiaeth o ddefnyddiau naturiol, cynaliadwy fel glaswellt y môr, cansen, bambŵ, dail banana, rattan, gwŷdd a ffon goco; a gellir eu gwneud naill ai mewn pen crwm neu siâp traddodiadol.

­Arch Dail Banana, siâp hirgrwn gyda dolenni rhaff naturiol, o £562.

Eirch Jiwt

Mae Eirch Jiwt yn ddewis cymharol newydd, ecogyfeillgar a fforddiadwy sy’n addas ar gyfer amlosgi, claddu neu safleoedd coetir naturiol. Fe’u hadeiladwyd gan ddefnyddio ffrâm bren Paulownia gynaliadwy, wedi’u gorchuddio â ffabrig jiwt o ansawdd uchel ac wedi’u gorffen â dolenni bambŵ.

­

Eirch Jiwt gyda dolenni bambŵ, o £150.

Eirch Cardbord

Mae Eirch Cardbord ar gael mewn brown naturiol neu wyn lili; neu gellir eu haddasu gyda dyluniad pwrpasol. Maent yn addas ar gyfer claddu, amlosgi a safleoedd coetir naturiol ac mae ganddynt ddolenni rhaff cadarn.

­ Eirch Cardbord gwyn-lili gyda dolenni rhaff, o £350.

‘Loop Living Cocoon’

Mae’r ‘Loop Living Cocoon’ yn cael ei dyfu o fadarch ac mae’n arch amgen hardd, naturiol sy’n addas ar gyfer amlosgi, claddu, neu safleoedd coetir naturiol. Wedi’i dyfu mewn dim ond 7 diwrnod, mae’n dychwelyd yn llawn i’r ddaear o fewn 45 diwrnod, gan gyfoethogi’r ddaear gan ddod yn ffynhonnell i fywyd newydd ffynnu. Mae gan y cocŵn chwe dolen jiwt integredig; mae wedi’i leinio â gwely meddal o fwsogl ac mae ar gael mewn lliw ‘tawel’ neu ‘wyllt’.

­

Tawel ‘Loop Living Cocoon’, 0 £1400.