Gwybodaeth Ddefnyddiol
Beth i wneud pan fydd rhywun yn marw…
Cam 1:
Gwirio’r marwolaeth
Pan fydd rhywun yn marw, rhaid i weithiwr meddygol proffesiynol wirio eu marwolaeth, e.e. meddyg, nyrs neu barafeddyg. Bydd y broses yma yn dibynnu ar ble a sut y bu farw’r person.
Os buont farw gartref ac roedd disgwyl iddynt farw, efallai bod y tîm gofal lliniarol wedi rhoi rhif i chi ei ffonio neu gallwch ffonio eu meddyg arferol, neu 111 os ydynt wedi marw yn y nos a gofyn am y meddyg ar alwad. Yna mae angen i chi gysylltu â’ch trefnydd angladdau dewisol a fydd yn trefnu i ddod â’r person sydd wedi marw i’w gofal ar ôl i’r farwolaeth gael ei chadarnhau.
Os bu farw gartref ac nad oedd disgwyl iddynt farw, rhaid i chi ffonio’r gwasanaethau brys ar 999. Byddant yn hysbysu’r crwner ac yn trefnu i’w trefnydd angladdau ar alwad gasglu’r person sydd wedi marw. (Gallwch ofyn i’r heddlu ddefnyddio’ch trefnydd angladdau dewisol ar yr amod eu bod wedi’u cymeradwyo gan y Crwner).
Os byddent wedi marw yn yr ysbyty, bydd tîm profedigaeth yr ysbyty yn eich tywys drwy’r camau nesaf. Bydd angen i chi gysylltu â’ch trefnydd angladdau dewisol i drefnu dod â’r person sydd wedi marw i’w gofal unwaith y bydd y gwaith papur angenrheidiol wedi’i gwblhau.
Os buont farw mewn cartref gofal neu hosbis a bod disgwyl iddynt farw, bydd y staff yn cysylltu â gweithiwr meddygol proffesiynol i wirio eu marwolaeth; a byddant yn cysylltu â’ch trefnydd angladdau dewisol ar eich rhan. Os ydynt wedi marw’n annisgwyl, bydd y staff yn ffonio’r gwasanaethau brys a fydd yn hysbysu’r Crwner.
Cam 2:
Sefydlu achos marwolaeth
Gellir cyfeirio marwolaeth at y Crwner os nad yw achos y farwolaeth yn amlwg. Gall hyn arwain at ymchwiliad pellach gan gynnwys ‘post-mortem’ os oes angen.
Os nad oes angen cyfeirio’r farwolaeth at y crwner, mae’r gwasanaeth Archwiliwr Meddygol yn darparu craffu annibynnol ar bob marwolaeth sy’n digwydd yng Nghymru a byddent yn gweithio i sicrhau bod pob parti dan sylw a’r perthynas agosaf yn cytuno ar achos y farwolaeth.
Unwaith y bydd Swyddog Archwilio Meddygol neu Grwner wedi cytuno ar achos y farwolaeth, byddant yn trefnu i’r ‘Medical Certificate Cause of Death (MCCD)’ gael ei chyhoeddi a’i hanfon ymlaen at Gofrestrydd ardal yr awdurdod lleol lle digwyddodd y farwolaeth.
Cam 3:
Cofrestru’r marwolaeth
Unwaith y bydd y Cofrestrydd wedi derbyn y MCCD, byddant yn gwneud apwyntiad i chi gofrestru’r marwolaeth a chael copïau o’r Tystysgrif Marwolaeth y gallwch eu trosglwyddo i’r awdurdodau perthnasol.
Bydd y Cofrestrydd hefyd yn cynnig gwasanaeth i chi o’r enw ‘Tell Us Once’ a fydd yn hysbysu cyrff y llywodraeth am y farwolaeth ar eich rhan.
Os yw’r Crwner yn credu bod angen ymchwiliad pellach i ganfod achos marwolaeth, byddant yn rhoi ‘Interim Death Certificate’ i chi yn uniongyrchol yn lle’r Tystysgrif Marwolaeth.
Gall y Cofrestrydd hefyd roi Tystysgrif Amlosgiad neu Claddu i chi, a elwir hefyd yn Ffurflen Werdd gan ei bod yn wyrdd o ran lliw.
Bydd angen i chi drosglwyddo hwn i’ch trefnydd angladdau, er fel arfer bydd yn cael ei chyhoeddi’n electronig a’i hanfon yn uniongyrchol at eich trefnydd angladdau.
Cam 4:
Planning the funeral
Gallwch ddechrau cynllunio’r angladd cyn i’r MCCD gael ei gyhoeddi neu i’r farwolaeth gael ei chofrestru.
Efallai bod y sawl sydd wedi marw wedi gadael cyfarwyddiadau angladd yn eu hewyllys neu lythyr dymuniadau; neu os oeddent wedi trefnu angladd wedi’i dalu ymlaen llaw yna efallai eu bod hefyd wedi enwebu trefnydd angladdau. Os ydych chi’n dewis trefnydd angladdau, gallwch wirio a ydynt wedi’u hachredu gyda National Association of Funeral Directors (NAFD) neu National Society of Allied and Independent Funeral Directors (SAIF) ar-lein neu dros y ffôn.
Mae’n rhaid i drefnwyr angladdau ddarparu rhestr brisiau safonol fel y gallwch gymharu costau a gallwch ofyn am ddyfynbris manylach cyn eu cyfarwyddo i fwrw ymlaen â threfniadau’r angladd.
Gall y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau annibynnol gynnig prisiau sy’n cymharu â chwmnïau angladd cenedlaethol ond gall eu costau amrywio’n fawr yn ogystal â’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig felly cymerwch eich amser i wneud y dewis cywir i chi.
Cam 5:
Paying for the funeral
Gall trefnu angladd fod yn ddrud. Gellir talu am yr angladd drwy bolisi yswiriant bywyd neu gynllun pensiwn neu’n uniongyrchol o gyfrif banc y person sydd wedi marw.
Mae’r broses o dalu o gyfrif banc rhywun am eu hangladd wedi’i symleiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n osgoi’r angen i fynd trwy gyfreithwyr neu orfod aros am brofiant gan na ellir gwrthod y taliad yma.
Mae’r rhifau cyswllt ar gyfer y timau profedigaeth perthnasol wedi’u cynnwys isod. Os ydych chi ar incwm isel, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael ‘Funeral Expenses Payment’ gan yr DWP i helpu i dalu costau.
Os nad oes arian i dalu am angladd, gall y cyngor (neu’r ysbyty os bu farw’r person yno) drefnu angladd iechyd cyhoeddus. Siaradwch â’ch trefnydd angladdau os oes angen unrhyw gyngor arnoch ac i drafod eu telerau talu.
Rhifau Ffôn Defnyddiol
- Swyddfa Archwiliwr Meddygol Gogledd Cymru: 029215 00699
- Swyddfa Crwner Gogledd Orllewin Cymru: 01286 672804
- Cofrestrydd Gwynedd (Caernarfon): 01766 771000
- Cofrestrydd Ynys Môn (Llangefni): 01248 751925
- Tîm Profedigaeth Ysbyty Gwynedd: 03000 850 865
- Llinell Gymorth Galar HMRC: 0300 322 9620
- Gwasanaeth Profedigaeth Cenedlaethol: 0800 0246 121
- NAFD: 0121 711 1343
- SAIF: 0345 230 6777
Timau Cymorth Profedigaeth Banc
- NatWest: 0800 161 5903
- Lloyds: 0800 015 0012
- Barclays: 0800 068 2238
- HSBC: 0800 085 1992
- Halifax: 0800 056 0171
- Santander: 0800 587 5870

