Costau ac Opsiynau

Faint mae’n ei gostio?

Er ein bod yn cynnig gwasanaeth pwrpasol, rydym hefyd yn cydnabod bod costau angladd yn aml yn annisgwyl a byddwn yn sicrhau y gallwch chi barhau i greu angladd ystyrlon wedi’i deilwra i’ch cyllideb. Rydym yn credu’n gryf nad yw faint rydych chi’n ei wario ar angladd yn adlewyrchiad o faint wnaethoch chi ofalu am y person hwnnw.

I’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd a allai gael trafferth talu costau’r angladd, efallai y bydd cymorth gan y llywodraeth ar gael o’r Gronfa Gymdeithasol tuag at rai o’r costau. Gallwn eich helpu i wneud cais am Daliad Treuliau Angladd os oes angen.

Gwasanaeth Angladd

O fewn ffi ein cyfarwyddwyr angladdau o £2095 rydym yn cynnwys y canlynol:

  • Gofalu am yr holl drefniadau angenrheidiol a chefnogaeth barhaus
  • Dod â’r person sydd wedi marw i’n gofal (fel arfer o fewn 15 milltir)
  • Gofalu am y person sydd wedi marw cyn yr angladd (hyd at 21 diwrnod)
  • Treulio amser gyda’r person sydd wedi marw yn ein Capel Gorffwys
  • Cyfarwyddwr Angladdau ar ddiwrnod yr angladd

Yn ein hadeilad ym Mangor, mae’n bosibl cynnal cynulliadau neu wasanaethau bach yn ein capel gorffwys ar y llawr gwaelod am ffi fach. Gall yr ystafell hon ffitio hyd at 15 o bobl lle mae croeso i chi ymgynnull cyn neu yn lle gwasanaeth angladd. Efallai y bydd ffi ychwanegol yn daladwy am weinydd os ydych chi am gynnal gwasanaeth angladd yn yr ystafell hon.

Ewch i’n tudalen ‘Mathau o Angladdau‘ i weld y gwahanol opsiynau claddu ac amlosgi i orffwys eich anwylyd. Isod rydym wedi rhestru gwybodaeth am opsiynau ychwanegol ar gyfer yr angladd.

Dewisiadau Ychwanegol

Cliciwch ar y dolenni isod i weld enghreifftiau o’r opsiynau sydd ar gael, neu ffoniwch ni ar 01248 351631 i drafod eich meddyliau.

Amlosgi Uniongyrchol

Mae amlosgi uniongyrchol gydag Enfys Funerals yn costio £1375 ac mae’n cynnwys:

  • Gofalu am yr holl drefniadau cyfreithiol a gweinyddol angenrheidiol.
  • Dod â’r person sydd wedi marw i’n gofal ni (o fewn 15 milltir i’n cartref angladdau ~ milltiroedd ychwanegol o £1.50 y filltir)
  • Arch jiwt (mae opsiynau eraill ar gael am gost ychwanegol)
  • Amlosgi heb oruchwyliaeth (yn amlosgfa Bangor neu Fae Colwyn)
  • Dychwelyd lludw (o fewn 30 milltir i Fangor) neu storio lludw yn Enfys nes eich bod yn barod i’w gasglu (hyd at 2 flynedd)

Opsiynau Ychwanegol

Os hoffech gynnal cynulliad neu wasanaeth dan arweiniad teuluol yn Enfys cyn amlosgi eich anwylyd heb oruchwyliaeth, mae’r gost am hyn yn dechrau o £225. Yn union fel gydag unrhyw angladd, os hoffech drafod yr opsiynau a’r costau eraill ar gyfer eirch, casgedi lludw, cludiant neu deyrngedau blodau, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i drafod y rhain heb unrhyw rwymedigaeth.